Donald Trump wedi ennyn dicter oherwydd ei sylwadau am fenywod (Llun: PA)
Roedd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, Ann Griffith wedi’i “syfrdanu” o weld rhai cannoedd o bobol yn gorymdeithio yng Ngorymdaith Merched Cymru ym Mangor heddiw.

Roedd yn un o’r ddwy brif brotest yng Nghymru heddiw, gydag un arall wedi’i chynnal yng Nghaerdydd.

Yn ôl Ann Griffith, fe gymerodd “ryw 300” o bobol ran yn y digwyddiad a gafodd ei drefnu i dynnu sylw at agweddau negyddol at fenywod yn sgil urddo Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau brynhawn ddoe.

Dywedodd Ann Griffith ei bod hi yno yn rhinwedd ei rôl fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, ond y byddai “wedi bod yno beth bynnag”.

Eglurodd fod pwrpas yr orymdaith yn cyd-fynd â rhai o flaenoriaethau’r heddlu.

‘Menywod yn bennaf, ond dynion hefyd yn dioddef’

“Ein prif flaenoriaethau yw trais ddomestig, caethwasiaeth, priodas dan ormes, FGM, masnachu mewn pobol ac ecsbloetio plant yn rhywiol.

“Merched yn bennaf yw’r dioddefwyr, ond mae dynion a bechgyn yn dioddef hefyd. Mae’n bwysig tynnu sylw at hynny.

“Mae angen tynnu sylw hefyd at gasineb at ferched a’r angen am hawliau dynol.

“Ro’n i ar yr orymdaith heddiw ac yn syfrdanu o weld cymaint o bobol – rhyw 300 – yno.”