Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn lladrad yn Rhosllannerchrugog y bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r Stryd Fawr am 8.16yb ar ôl i dri dyn fynnu arian gan ddynes ar ôl ei bygwth.

Gadawodd y tri mewn car Volkswagen Golf, a gafodd ei ddarganfod yn yr ardal yn ddiweddarach.

Cafodd un dyn 26 oed ei gludo i’r ysbyty ar ôl i’r heddlu ddefnyddio gwn taser arno, ac mae e bellach yn y ddalfa ar amheuaeth o fwrgleriaeth ddifrifol.

Mae tair dynes wedi’u harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, ac mae’r heddlu’n chwilio am ddau ddyn arall mewn perthynas â’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.