Safle'r Ynys yng Nghaernarfon (Llun: Cronfa Dreftadaeth y Loteri)
Fe fydd gan y cyhoedd gyfle’r wythnos nesaf i weld y cynlluniau ar gyfer troi adfeilion ar lannau Caernarfon yn gyfres o weithdai bychain i grefftwyr.

Nod prosiect Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon – rhan o ymgyrch adfywio glannau’r dref – yw datblygu Safle’r Ynys, gan gynnwys sefydlu 17 o unedau newydd yno.

Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ehangach Menter Glannau Caernarfon gwerth £15 miliwn i wella a datblygu adeiladau’r dref.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i ennill grantiau gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri a’r gobaith yw y gallai/r Cei Llechi fod ar gael i denantiaid erbyn mis Ionawr 2020.

Bydd arddangosfa o’r safle – Safle’r Ynys, neu’r Cei Llechi – yn swyddfeydd Ymddiriedolaeth yr Harbwr ddydd Mercher a dydd Iau.