'Y 96' (Llun: PA)
Fe fydd yr awdur ac arweinydd ymchwil panel annibynnol Hillsborough, yr Athro Phil Scraton yn traddodi darlith gyhoeddus yn Abertawe ym mis Mawrth.

Cangen Gymreig Cymdeithas Droseddeg Prydain sydd wedi trefnu’r digwyddiad mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Abertawe.

Fe fu’r Athro Scraton yn cydweithio â theuluoedd y 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl a fu farw yn y trychineb ym mis Ebrill 1989 wrth iddo lunio adroddiad annibynnol am y trychineb a arweiniodd at y cwestau newydd, a ddaeth i’r casgliad nad y cefnogwyr oedd ar fai am eu marwolaethau eu hunain.

Bydd ei ddarlith yn canolbwyntio ar ymgais dros chwarter canrif i gyhoeddi’r gwirionedd am y trychineb, gwaith ymchwil y panel, tystiolaeth y cwestau newydd, gwaith Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn dilyn ffaeleddau Heddlu De Swydd Efrog a thystiolaeth erlynwyr.

Mae’r ddarlith yn agored i unrhyw aelod o’r cyhoedd ac mae’r trefnwyr yn dweud y gallai fod o ddiddordeb i Gomisiynwyr yr Heddlu, myfyrwyr, academyddion ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol.

Yn dilyn y ddarlith, bydd yr Athro Phil Scraton ar gael i ateb cwestiynau am waith y panel.

Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal yn Narlithfa Richard Price yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe am 6 o’r gloch, Mawrth 22.