Joanna Penberthy (Llun: yr Eglwys yng Nghymru)
Bydd esgob benywaidd cyntaf Cymru, Joanna Penberthy yn cael ei chysegru mewn seremoni arbennig heddiw.

Bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd am 11 o’r gloch.

Cafodd ei hethol ym mis Tachwedd i olynu Wyn Evans, cyn-Esgob Tyddewi.

Cafodd y penderfyniad i dderbyn menywod yn esgobion ei wneud yn 2013.

Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan fydd yn arwain y gwasanaeth.

Bydd hi’n dechrau ar ei gwaith yn swyddogol ar Chwefror 11 yn dilyn gwasanaeth arbennig yn Nhyddewi.