Gareth Bale
Mae golwg360 ar ddeall bod cwmni bragu cwrw Brains yn bwriadu agor bar chwaraeon yng nghanol Caerdydd  gyda’r pêl droediwr byd enwog Gareth Bale.

Byddai’r bar hwn yn disodli Dempsey’s, y dafarn Wyddelig gyferbyn â chastell Caerdydd, sy’n boblogaidd ymhlith siaradwyr Cymraeg y brifddinas.

Ni wnaeth cwmni Brains wadu’r sïon pan ffoniodd golwg360, gan ddweud y bydd cynlluniau’n cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror.

Daeth y cyhoeddiad y bydd Dempsey’s yn cau ddechrau’r flwyddyn ac mae dros 1,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Brains i gadw’r lle ar agor.