Llys y Goron Abertawe
Mae bocsiwr wnaeth ladd ei gariad ar ôl noson o yfed a chymryd cyffuriau, wedi ei garcharu am 12 blynedd a hanner wedi iddo gael ei ganfod yn euog o ddynladdiad.

Mi wnaeth James Tobin, 21, o Bort Talbot daro ei gariad Kellie Marie Gillard, 25, ar Ebrill 24 2015 gan achosi iddi fwrw ei phen yn erbyn wal a rhwygo prif wythïen.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ystod dadl rhwng y cariadon yn dilyn noson o yfed, cymryd cocên a rhyw.

Mewn llythyr i’r barnwr dywedodd James Tobin: “Os fyddwn heb fod dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol ni fyddai hyn wedi digwydd.”

Troseddu yn y gorffennol

Cyfaddefodd ei fod yn euog o ddynladdiad yn ystod gwrandawiad fis Hydref y llynedd.

Yn Llys y Goron Abertawe heddiw, clywodd y byddai cyfnod trwydded estynedig yn cael ei ychwanegu i’w ddedfryd.

Clywodd y Llys bod James Tobin wedi ei ganfod yn euog yn y gorffennol o daro dyn ym Mhort Talbot gan dorri ei benglog.