Llys y Goron Merthyr Tudful
Mae dyn o Ferthyr Tudful wnaeth hudo plant gyda gêm gyfrifiadurol wedi ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful bod Adam Isaac, 23, wedi denu cyfeillgarwch dau fachgen gyda’r gêm boblogaidd Minecraft.

Targedodd y bechgyn  12 a 14 blwydd oed gan ofyn iddyn nhw ddanfon lluniau anweddus o’u hunain.

Roedd Adam Isaac ei hun yn ymddwyn yn rhywiol yn ystod y galwadau fideo ac roedd ganddo luniau anweddus o fachgen arall hefyd.

Yn y gorffennol cyfaddefodd y troseddwr ei fod yn euog o chwe throsedd yn erbyn plant.