Mae Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymgyrchu i gadw 20 o swyddi Cymry Cymraeg gyda’r Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ym Mhorthmadog.

Yn ôl Guto Bebb, AS Aberconwy, achub y swyddi sy’n bwysig – yn hytrach na’r Swyddfa Dreth yn y dref lle mae’r gwaith yn cael ei wneud.

Dim ond 12% o ofod Tŷ Moelwyn, yr adeilad lle mae’r swyddfa dreth wedi ei lleoli ym Mhorthmadog, sy’n cael ei ddefnyddio.

Bwriad gwreiddiol y Llywodraeth oedd cau’r adeilad a symud yr 20 o swyddi lawr i ganolfan fawr yng Nghaerdydd erbyn 2021.

Ond oherwydd bod y swyddogion treth dan sylw yn medru darparu Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) trwy gyfrwng y Gymraeg, mae ymgyrchu wedi bod i gadw’r gweithwyr yn y dref.

Fe allai’r swyddogion treth gael eu hadleoli i swyddfa’r Adran Waith a Phensiynau ym Mhorthmadog – ond nid oes penderfyniad wedi ei wneud hyd yma.

“Mae yna gynllun amgen yn cael ei weithio allan yn San Steffan,” meddai Guto Bebb, “ac rydan ni’n gobeithio gallu cadarnhau os yw hynny’n llwyddiant neu ddim yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach…

“Yr hyn sy’n allweddol ydy cadw’r swyddi a’r sgiliau ym Mhorthmadog, yn hytrach nag unrhyw leoliad penodol o fewn y dref.”

Plaid Cymru yn falch

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yn croesawu ymdrechion Guto Bebb i achub y swyddi.

“Dw i’n gwybod bod yna drafodaethau o fewn Llywodraeth Prydain am oblygiadau symud y gwasanaeth,” meddai Liz Saville Roberts.

“Dw i, a phobol eraill, wedi bod yn pwyso ers amser hir i gael ateb pendant ynghylch beth sy’n digwydd efo swyddfa Porthmadog… yr argraff dw i’n ei gael ydy nad ydyn nhw wedi penderfynu yn derfynol…

“I fi mae’r ffaith fod y gwaith wedi ei leoli o fewn cyrraedd rhesymol i’r staff presennol – a hynny yng Ngwynedd, ac yn ddelfrydol ym Mhorthmadog – yn bwysicach i fi na’r adeilad [presennol] ei hun.”

“Unigryw i Borthmadog”

Mae Liz Saville Roberts yn cytuno gyda Guto Bebb mai’r hyn sy’n bwysig yw cadw’r swyddi yn y dref.

“Beth sydd yn unigryw am Borthmadog yw bod ganddo chi arbenigwyr ariannol sy’n hyddysg ac yn arfer gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, mewn sir sydd yn hyddysg ac yn arfer gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai’r AS Plaid Cymru.

“Mae HMRC [Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi] wedi dweud gyda’r ad-drefnu na fysan nhw yn gallu cynnig swyddi i bobol o Borthmadog achos mae hi’n bedair awr, a mwy, o daith i lawr i Gaerdydd.

“Felly, er eu bod nhw’n dweud eu bod yn mynd i gynnal y gwasanaeth o’r newydd, dw i’n gofyn y cwestiwn o ddifrif: ‘Sut ydach chi’n mynd i recriwtio pobol o’r un safon o’r newydd?’

“Nid yn unig, yn amlwg, mae hyn yn anfanteisio’r bobol sydd yn gweithio ym Mhorthmadog oherwydd eu bod nhw’n colli eu swyddi – ond mae hefyd yn ddifrifol i’r cwsmeriaid sy’n disgwyl cael y gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, achos mae’n anodd gen i weld sut maen nhw’n mynd i gynnal safonau o symud o dîm o bobol brofiadol [ym Mhorthmadog], i gychwyn y tîm yma o’r newydd [yng Nghaerdydd].”

Rhagor am yr ymdrech i achub y swyddi yng nghylchgrawn Golwg.