Yn Llundain y mae'r tai druta' (Llun parth cyhoeddus)
Dim ond tri rhanbarth economaidd o’r Deyrnas Unedig sydd â phrisiau tai is na Chymru, yn ôl y ffigurau diweddara’.
Ac, yn ôl ystadegau Banc Lloyds, mae tai yn Llundain ar gyfartaledd yn costio bron dair gwaith mwy na thai yma.
Mae’r cynnydd mewn prisiau tros y flwyddyn ddiwetha’ wedi bod yn gymharol isel yng Nghymru hefyd – cynnydd o 4%.
Mae tai yng Nghymru ar gyfartaledd yn costio £199,289.
Cynnydd – yr Alban ar waelod y rhestr
Dim ond dau ran o wledydd Prydain sydd â phrisiau is – Gogledd Iwerddon (£162,676) a Gogledd Ddwyrain Lloegr (£183,670).
Yn y ddau ranbarth economaidd yna hefyd roedd y cynnydd prisiau’n is nag yng Nghymru. Ond yr Alban oedd ar waelod y rhestr hwnnw gyda chynnydd o ddim ond 1%.
Mae prisiau tai’n amrywio’n sylweddol o fewn Cymru gyda phrisiau mewn rhannau o Gaerdydd a Bro Morgannwg, er enghraifft, yn codi’r cyfartaledd yn sylweddol.