Hyrwyddo cig oen Cymru dramor (Llun: Hybu Cig Cymru)
Mae AC wedi rhybuddio y gallai ffermwyr Cymru golli ddwywaith os bydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda ‘Brexit caled’.

Fe fyddai hynny’n golygu gadael y farchnad sengl yn Ewrop a chreu cytundebau masnach Prydeinig gyda gweddill y byd ac, yn ôl Simon Thomas o Blaid Cymru, fe allai hynny wneud niwed mawr.

Ar un llaw, meddai, fe allai cynnyrch ffermwyr Cymru gostio mwy tros y dŵr wrth i wledydd eraill osod tariffau o dan reolau Corff Masnach y Byd.

Ar y llall, fe fyddai cytundeb masnach rydd gyda Seland Newydd yn golygu bod cig oen yn “dod i mewn yn rhatach a thanbrisio cig oen da, Cymreig.”

‘Gwneud ffermwyr Cymru’n dlotach’

Roedd Simon Thomas, llefarydd amaeth Plaid Cymru ac Aelod Cynulliad tros Orllewin a Chanolbarth Cymru, wedi holi Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, am y pwnc ynghynt yr wythnos yma ac mae wedi addo cefnogi ymdrechion y Llywodraeth i amddiffyn ffermwyr Cymru.

“Unwaith eto, mae Llywodraeth Lundeinig y Ceidwadwyr yn gwneud penderfyniad cydwybodol i wneud ffermwyr Cymreig yn dlotach trwy wneud iddyn nhw fethu â chystadlu yn fyd-eang.

“Byddaf yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw ffermwyr Cymreig ar golled o ganlyniad i ‘Brexit caled’ poenus ac anghyfiawn.”