Steven Downing (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn wedi’i garcharu am dair blynedd a hanner, wedi iddo daro ei wraig gydag ysgub a dod yn agos iawn at ei lladd gyda chlustog tra ar wyliau yng Ngwynedd y llynedd.

Fe glywodd Llys y Goron Caernarfon sut y bu Steven Downing yn cam-drin ei wraig, Caroline, gyda’r ysgub, gan ei tharo mor galed unwaith nes i’r brwsh dorri.

Roedd Steven Downing, o Halesowen, wedi pledio’n euog i ymosod ei wraig 58 mlwydd oed deirgwaith, ac o fygwth ei lladd hi.

Mewn ymateb, dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke fod Steven Downing, 59 oed, wedi ymddwyn mewn modd “sadistaidd a chreulon” tuag at y wraig yr oedd yn briod iddi ers 32 o flynyddoedd. Mae gorchymyn llys yn ei wahardd rhag cysylltu â hi.

Roedd yr ymosodiad â’r ysgub wedi digwydd tra’r oedd y ddau ar wyliau yng nghyffiniau Tywyn a Llanegryn, Meirionnydd.