Chelsea Manning (Llun: Wikipedia)
Mae teulu’r cyn-filwr a gafodd ei garcharu yn America am ryddhau cudd-wybodaeth i wefan Wikileaks, yn dweud y byddai “croeso iddi yng Nghymru” pan fydd yn cael ei rhyddhau.

Mae Chelsea Manning yn un o dros ddau gant o garcharorion y mae Barack Obama wedi lleihau eu dedfrydau, yn ystod dyddiau ola’ ei arlywyddiaeth.

Mewn datganiad yn ymateb i gyhoeddiad yr Arlywydd, mae teulu Chelsea Manning – a arferai alw’i hun yn Bradley Manning – eu bod nhw “wrth eu boddau” gyda’r penderfyniad.

Ganwyd Bradley Edward Manning yn 1987, ac fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Tasker Millward yn Hwlffordd, Sir Benfro. Er iddo gael ei eni yn Ninas Oklahoma yn yr Unol Daeithiau, mae ei fam, Susan, yn hanu o Gymru. Fe gwrddodd ei rieni pan oedd ei dad, Brian, yn gwasanaethu gyda Llu Awyr America yng ngwersyll Breudeth ger Tyddewi.

“Gobeithio’n fawr y bydd Chelsea nawr yn gallu parhau â gweddill ei bywyd, a’i bod hi’n darganfod hapusrwydd a boddhad ym mha beth bynnag mae hi’n dewis ei wneud,” meddai datganiad y teulu.

“Bydd croeso iddi o hyd yma yng Nghymru.”