Kirsty Williams
Mae Ysgrifennydd Addysg llywodraeth Cymru wedi teithio i’r Ffindir i ddysgu am system addysg y wlad.

Bydd Kirsty Williams ynghyd â phobl o 18 o wledydd yn rhan o’r gynhadledd addysg ryngwladol yn ninas Rovaniemi.

Yn ystod ei hamser yno bydd hi yn ymweld ag ysgolion i gyfarfod myfyrwyr ac athrawon i weld sut y mae addysgu’n cael ei drefnu yn y Ffindir.

Mae system addysg y Ffindir wedi sgorio’n uchel o ran canlyniadau byd-eang ers gweithrediad amrywiaeth o gamau diwygio yno.

“Mae’r ymweliad hwn yn rhan o’n hymdrechion i ddysgu gan oreuon y byd ym maes addysg,” meddai Kirsty Williams.

“Rydyn ni’n gweithredu camau diwygio tebyg yng Nghymru wrth i ni ddatblygu ein cwricwlwm cenedlaethol newydd ac dw i eisiau clywed am brofiad y Ffindir, a ph’un a oes rhywbeth y gallwn ni yng Nghymru ei ddysgu oddi wrtho.”