Llun: PA
Mae Cyngor Powys wedi cefnogi cynllun i agor  ysgol gynradd benodol cyfrwng Cymraeg yn y Trallwng ynghyd ag ysgol Eglwys yng Nghymru cyfrwng Saesneg.

Mae’n golygu y bydd y pedair ysgol sydd yno ar hyn o bryd – Ysgol Fabanod Ardwyn, Ysgol Fabanod Yr Eglwys yng Nghymru Gungrog, Ysgol Gynradd Maesydre, ac Ysgol Fabanod Oldford – yn cau.

Bydd yr ysgol Gymraeg  yn agor ar safle presennol Ysgol Maesydre, gyda lle i 150 o ddisgyblion, yn 2018-19 gan weithredu ar safle Ysgol Fabanod Ardwyn yn y cyfamser.

Bydd yr ysgol Eglwys yng Nghymru yn cael ei hadeiladu ger Ysgol Uwchradd Y Trallwng yn 2018-19. Bydd yn gweithredu o safleoedd presennol ysgolion Maesydre, Gungrog ac Oldford nes y bydd yr adeilad newydd yn barod.

Dywed y cyngor y bydd yn arbed £114,110 y flwyddyn ac wedi i’r ysgolion symud i’w adeiladau newydd fe fydd yn arbed £202,792 y flwyddyn.