Gosod blodau ar y traeth yn Sousse, Tunisia, lle cafodd 38 eu lladd Llun: PA
Roedd trefniadau diogelwch mewn gwestyau yng nghyrchfan wyliau Sousse yn Tiwnisia wedi cael ei feirniadu mewn adroddiad i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, fisoedd cyn i 38 o bobl gael eu saethu’n farw mewn ymosodiad brawychol yno, clywodd cwest heddiw.

Roedd yr adolygiad o westyau ym mis Ionawr 2015 yn cynnwys y gwesty pum seren Riu Imperial Marhaba lle’r oedd dyn arfog, Seifeddine Rezgui wedi saethu 38 o bobl yn farw – 30 ohonyn nhw o wledydd Prydain a thri o ddinasyddion Iwerddon ym mis Mehefin 2015.

Yn eu plith roedd Trudy Jones, 51 oed, o’r Coed Duon.

Mae’r cwest i farwolaethau’r ymwelwyr o Brydain wedi clywed bod yr adroddiad wedi codi cwestiynau am ddiogelwch wrth fynedfeydd i’r traeth mewn tua 30 o westyau mewn tri chyrchfan wyliau.

Roedd Seifeddine Rezgui wedi lladd tua 10 o bobl ar y traeth cyn iddo gael mynediad i’r gwesty o’r traeth.

Roedd Sousse eisoes wedi cael ei thargedu gan hunan-fomiwr ym mis Hydref 2013, clywodd y cwest. Yr hunan-fomiwr yn unig gafodd ei ladd y tro hwnnw.

Dywedodd Andrew Ritchie QC, sy’n cynrychioli teuluoedd 20 o’r dioddefwyr, bod y Llywodraeth yn ymwybodol bod eithafwyr oedd yn gysylltiedig â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi rhybuddio ym mis Rhagfyr 2014 y byddai twristiaid yn cael eu targedu.

Roedd adolygiad gan y Tîm Asesu Diogelwch yn Tiwnisia (TSAT) hefyd wedi darganfod bod “trefniadau diogelwch mewn gwestyau o safon isel” er bod “rhai gwestyau gyda gwell diogelwch.”

Mae disgwyl i’r cwest barhau am saith wythnos.