Jan Jedrzejewski, Llun: Heddlu Gwent/PA
Mae pedwar dyn wedi bod gerbron llys ynadon heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dyn yng Nghasnewydd.
Cafodd Jan Jedrzejewski, 41 oed, ei ganfod yn anymwybodol yn Stryd Keene yng Nghasnewydd am 11yh nos Iau, 12 Ionawr.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw’n ddiweddarach.
Heddiw fe fu pedwar o bobl – dyn 43 oed, dau ddyn 18 oed a bachgen 17 oed – gerbron Llys Ynadon Casnewydd ar gyhuddiad o lofruddio Jan Jedrzejewski.
Cafodd y pedwar eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Casnewydd fore dydd Mercher.