Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty gyda llosgiadau ar ôl tân mewn tŷ yng Nghaerffili neithiwr.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r tŷ yn Heol Rowland, Caerffili toc cyn 9yh nos Lun, 16 Ionawr.
Roedd pedwar injan dân, saith ambiwlans a phedwar o gerbydau’r heddlu wedi eu hanfon i’r safle.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y tŷ wedi’i ddifrodi gan y tân ond nad oedd difrod i dai eraill cyfagos.
Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân.