Côr Glanaethwy
Mae aelodau o Gôr Glanaethwy wedi gorfod glanio’n annisgwyl yn Iwerddon heddiw wrth deithio’n ôl o Efrog Newydd am fod rhiant un o’r aelodau wedi’i daro’n wael.

Mae golwg360 ar ddeall bod rhiant yr aelod bellach yn cael triniaeth mewn ysbyty yn Iwerddon.

Dywedodd un o aelodau’r côr wrth golwg360 fod gweddill yr aelodau bellach wedi glanio ym maes awyr Manceinion ac ar eu ffordd yn ôl i Gymru.

Yn ystod eu taith i Efrog Newydd yr wythnos diwethaf cafodd arweinydd y côr, Cefin Roberts, ei rwystro rhag teithio gyda’r côr am iddo wneud camsyniad wrth lenwi ffurflen gais i deithio i’r Unol Daleithiau (ESTA), a bu’n rhaid iddo ymuno â nhw’n ddiweddarach.

Mae Côr Glanaethwy wedi bod yn perfformio ‘Cantata Memoria’ gan Karl Jenkins yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd i nodi hanner can mlynedd ers trychineb glofaol Aberfan.