Y ddarlith feddygol Gymraeg, (Llun: Prifysgol Caerdydd)
Cafodd y ddarlith feddygol  gyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ei chynnal ddydd Llun.

Roedd y ddarlith ar iechyd esgyrn wedi’i chynnal gan Dr Awen Iorwerth, darlithydd dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, o flaen darlithfa lawn.

Cafodd ei thraddodi ddydd Llun trwy’r Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i fyfyrwyr di-Gymraeg.

Mae Awen Iorwerth yn gyfrifol am drefnu cynadleddau’r de i’r Gymdeithas Feddygol ac wedi ymddangos ar raglen Doctoriaid Yfory ar S4C.

‘Codi ymwybyddiaeth’

Esboniodd Sara Whittam sy’n Rheolwr Datblygu’r Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd mai cynllun peilot yw hyn, ond fod bwriad i ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyrsiau tebyg yn y dyfodol.

“Yn amlwg, mae Awen Iorwerth yn arbenigwr orthopedig, ac fe ddaeth y cyfle i gynnal y ddarlith yn y Gymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Yn sicr, mae’n ffordd o godi ymwybyddiaeth ein holl fyfyrwyr o ddefnydd yr iaith Gymraeg a phwysigrwydd dwyieithrwydd o fewn meddygaeth.”

Dywedodd fod oddeutu 200 o fyfyrwyr yn bresennol yn y ddarlith a’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol.

“Mae nifer o’n myfyrwyr yn awyddus i ddysgu Cymraeg, ac yn barod i fynd ar wersi Cymraeg cyn mynd ar leoliadau gwaith er enghraifft,” ychwanegodd Sara Whittam.