Andrew RT Davies (Llun: Ceidwadwyr Cymreig)
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Bil Undebau Llafur “unigryw” i Gymru.

Fe fydd y mesur yn dadwneud rhai agweddau o Ddeddf Llywodraeth Prydain ddaeth i rym ym mis Mai gan gynnwys yr elfen sy’n rhoi cyfyngiadau ar streiciau gweithwyr o fewn y sector cyhoeddus.

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi beirniadu’r ddeddf fel modd i “dalu’n ôl i’w tâl-feistri sy’n undebau llafur, sydd wedi  rhoi mwy na £11 miliwn i’r Blaid Lafur ers i Jeremy Corbyn ddod yn arweinydd.”

“Ni fydd y cynlluniau yma yn gwneud unrhyw beth i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru,” meddai.

Ychwanegodd Andrew RT Davies fod gan bobol “yr hawl i ddisgwyl amddiffynfeydd rhag gweithredu diwydiannol annemocrataidd.”

Dadwneud trothwy  pleidleisio am streic

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, wrth golwg360: “beth ry’n ni’n neud yw ailwampio pethau i helpu ni i gael undebau sy’n ddigon cryf i wneud y gwaith pwysig sydd ganddyn nhw i wneud ac i ddod at y bwrdd gyda’n gilydd, gyda Llywodraeth Cymru, gyda phobol sy’n rhedeg ein gwasanaethau cyhoeddus ac i gael datrys y problemau sydd gennym ni.”

Os bydd y bil yn cael ei basio yn y Cynulliad, bydd yn dadwneud rhannau o’r ddeddf yn San Steffan sy’n ymwneud â Gwasanaeth Iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r gwasanaeth tân yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu na fydd rhaid cael trothwy o 40% o bleidlais y gweithlu cyn cynnal streic, mwy o amser i undebau llafur wneud eu gwaith a bydd amodau ar dynnu taliadau aelodau undebau llafur o gyflogau yn newid.