Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Fe fydd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Undebau Llafur unigryw i’r Cynulliad heddiw i “herio” Deddf Undebau Llafur Llywodraeth Prydain.

Bydd bil Mark Drakeford yn dadwneud rhai o “effeithiau niweidiol” Deddf San Steffan a ddaeth i rym ym mis Mai, sy’n rhoi cyfyngiadau ar streiciau gweithwyr o fewn y sector cyhoeddus.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod y ddeddf ar y pryd, gan ddweud na ddylai gynnwys sectorau sydd wedi’u datganoli fel iechyd ac addysg.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, er bod llai o gyfyngiadau yn y bil yng Nghymru, fydd e ddim yn arwain at sefyllfa lle mae mwy o streicio yn digwydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru nag yn Lloegr.

“Beth mae’n mynd i wneud yw helpu ni i gryfhau’r ffordd ry’n ni’n gwneud pethau yma yng Nghymru,” meddai Mark Drakeford wrth golwg360.

“Y ffordd ry’n ni’n gwneud pethau yw gweithio mewn partneriaeth rhwng pobol sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus sydd gennym ni a phobol sy’n rhedeg y gwasanaethau cyhoeddus hefyd.

“Yn fy marn i, mae’r pethau yn neddf San Steffan ddim yn helpu o gwbl i wneud hwnna’n effeithiol ac ry’n ni’n gwneud camau yn y bil yng Nghymru i gryfhau’r system sydd gennym ni.”

San Steffan yn “ymosod ar undebau llafur”

Cyhuddodd ddeddf Llywodraeth Prydain o “ymosod ar undebau llafur” a “gwneud hi’n fwy anodd i bobol sy’n aelodau o’r undebau dalu i fod yn aelodau.”

“Beth ry’n ni’n neud yw ailwampio pethau i helpu ni i gael undebau sy’n ddigon cryf i wneud y gwaith pwysig sydd ganddyn nhw i wneud ac i ddod at y bwrdd gyda’n gilydd, gyda Llywodraeth Cymru, gyda phobol sy’n rhedeg ein gwasanaethau cyhoeddus ac i gael datrys y problemau sydd gennym ni.”

Os bydd y bil newydd yn cael ei basio yn y Cynulliad, bydd yn dadwneud rhannau o’r ddeddf yn San Steffan sy’n ymwneud â Gwasanaeth Iechyd, addysg, llywodraeth leol a’r gwasanaeth tân yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu na fydd trothwy o 40% o bleidleisiau o blaid streicio yn gorfod bod cyn i weithlu fynd ar streic, bydd mwy o amser i undebau llafur wneud eu gwaith a bydd amodau ar dynnu taliadau aelodau undebau llafur o gyflogau yn newid.

Ymateb TUC Cymru

Dywedodd Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, “Mae’n ffordd ni o weithredu yma yng Nghymru yn llwyddo i atal anghydfod a gweithredu diwydiannol.

“Heb y Bil hwn, byddai Trade Union Act y DU yn troi’r cloc yn ôl ar ddatganoli ac yn bygwth tanseilio’n ffordd ni o weithredu ar sail partneriaethau cymdeithasol.

“Rhaid i Lywodraeth San Steffan barchu ewyllys democrataidd pobl Cymru yn hytrach na cheisio ymyrryd mewn gwasanaethau na chawson nhw eu hethol i’w rhedeg.”