Mae tri dyn ifanc o ardal Casnewydd yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 41 oed.

Cafodd plismyn eu galw i Keene Street yn y ddinas am 11 nos Iau, lle cafwyd hyd i ddyn yn anymwybodol ar y palmant. Aed ag ef i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw.

Mae dau o’r tri sydd o dan amheuaeth yn 18 oed, a’r llall yn 17 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent fod eu hymchwiliadau’n parhau, ond cadarnhaodd nad oedden nhw’n chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.