Alana Spencer (llun: Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol)
Bydd enillydd y gyfres deledu ‘The Apprentice’ i’w gweld yn Ffair Fwyd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin yr wythnos nesaf.

Bydd Alana Spencer o Aberystwyth ymhlith y stondinwyr yn Nhŷ Gwydr Mawr yr ardd ddydd Sadwrn a Sul, pryd y bydd dewis eang o fwyd a diod blasus gan gynhyrchwyr o’r de-orllewin.

Wrth ennill y gystadleuaeth, cafodd fuddsoddiad o £250,000 gan yr entrepreneur adnabyddus Alan Sugar ar gyfer ei chwmni gwneud cacennau.

Meddai trefnydd y digwyddiad, David Hardy:  “Does dim ffordd well o godi’ch calon yn ystod mis hir, diflas o Ionawr na ffair fwyd.  Y digwyddiad blasus yma fydd y lle i fod y penwythnos nesaf.”

Fe fydd y gatiau’n agor o 10yb ac yn cau am 4:30yp, a’r tâl mynediad fydd £3.