Cynhyrchwyr bwyd o Gymru gyda’r cyflwynydd teledu Jason Mohammad a’r cogydd Dudley Newbery mewn digwyddiad ar stondin Hybu Cig Cymru yn y Sioe Frenhinol, yn tynnu sylw at gynnyrch sy’n rhan o’r cynllun Enwau Bwyd Gwarchodedig. (Llun: Hybu Cig Cymru)
Mae pryder am ddyfodol enwau bwydydd o Gymru oherwydd Brexit.

Ar hyn o bryd mae gan rai o brif gynhyrchion bwyd Cymru ddynodiadau Ewropeaidd fel sydd gan Champagne a chig moch Parma, ac maen nhw’n rhan hanfodol o gynllun marchnata bwydydd fel Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru, Halen Môn a Thatws Sir Benfro.

Fe fydd cynrychiolwyr o’r diwydiant bwyd yn trafod yr angen i ddiogelu prif frandiau Cymru gyda Defra (Adran Llywodraeth Prydain dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) yn Llundain ddydd Mercher.

Fe fydd yr asiantaeth Hybu Cig Cymru yn cynrychioli’r diwydiant cig oen a chig eidion yn y cyfarfod.

“Mae’r dynodiadau Ewropeaidd hyn yn holl bwysig o ran ein hymdrechion marchnata,” meddai Gwyn Howells, prif weithredwr Hybu Cig Cymru.

“Maen nhw’n symbolau uchel eu parch o safon a tharddiad bwyd, ac yn ein helpu i sicrhau statws premiwm i’n cynnyrch a’i warchod yn erbyn cael ei efelychu. Mae hyn, yn y pen draw, yn sicrhau mwy o incwm i’n ffermwyr a phroseswyr yng Nghymru.

“Mae’n bwysig ein bod yn sefydlu system debyg i’r dynodiadau yma ar ôl Brexit.”