Arbais y teulu Armstrong-Jones
Mae Anthony Armstrong Jones, y ffotograffydd enwog a chyn-ŵr y Dywysoges Margaret, wedi marw yn 86 oed.

Roedd yn cael ei adnabod fel Iarll Cyntaf yr Wyddfa, a theulu’i dad yn hanu o Wynedd, lle treuliodd cryn dipyn o’i amser fel plentyn.

Ei gyn-wraig, Margaret, oedd merch ieuengaf y Brenin George VI a chwaer y Frenhines bresennol, Elizabeth II.