Yn dilyn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Tredegar, Blaenau Gwent mae Gorchymyn Gwasgaru yn dod i rym yn y dref am 48 awr o heno ymlaen.

Mae Gorchymyn Gwasgaru yn rhoi hawliau ychwanegol i’r heddlu wahanu grwpiau o bobol a all fod yn aflonyddu neu’n dychryn y cyhoedd, a’u gwahardd o’r ardal. Os ydyn nhw’n dychwelyd i’r safle, fe allen nhw gael eu harestio.

Bydd y gorchymyn yn dod i rym am 18:00 heno ac yn rhedeg am 48 awr yn ardaloedd Commercial Street, Stryd y Castell, Stryd y Frenhines Fictoria, Mount Street, Ffordd Gelli, Upper Coronation Street and Chanolfan Siopa Tredegar.

Gofynna’r heddlu i unrhyw un sy’n gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol i gysylltu â nhw ar 101.