Mae trigolion pentref Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd wedi talu teyrnged i ddyn lleol fu farw yn dilyn tân mewn tŷ yn y pentref fore Gwener.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r tŷ ar Deras Gwilym am 09:44 fore Gwener.

Roedd y dyn wedi marw erbyn i’r gwasanaethau achub gyrraedd y safle ac nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae ymchwiliad rhwng y gwasanaeth tân a’r heddlu yn cael ei gynnal.