(llun o wefan yr heddlu)
Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddwyn o garej yn ardal Corwen.

Fe ddigwyddodd y lladrad yn ystod oriau mân y bore, pryd y cafodd sigarets eu dwyn, a chafodd y tri eu harestio yn ardal glannau Mersi yn ddiweddarach.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Corwen rhwng 2.30 a 5.00am. Maen nhw’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw dros y we ar http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx  gan nodi cyfeirnod V005534, neu ffonio ar 101 neu 0800 555 111.