Bydd Cyngor Conwy yn cynnal digwyddiad ddiwedd y mis er mwyn esbonio rôl y cyngor a’r heriau sy’n wynebu cynghorwyr

Pwrpas y sesiwn ‘Bod yn Gynghorydd’ sydd yn cael ei chynnal yn swyddfeydd y sir ar Ionawr 30 yw addysgu darpar ymgeiswyr ynglŷn â natur gwaith cynghorydd.

Fe fydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor wrth law i siarad am eu gwaith gyda Chyngor Conwy.

Cyfrifoldeb difrifol

“Bydd croeso mawr i unrhyw un sy’n ystyried sefyll am etholiad fis Mai yn y digwyddiad hwn,”  meddai Prif Weithredwr y cyngor, Iwan Davies.

“Gall bod yn Gynghorydd fod yn rhywbeth sy’n rhoi boddhad ac sy’n werth chweil, ond yn aml ni sylweddolir faint o waith sydd ynghlwm â’r rôl a beth ddisgwylir o’r rhai sy’n cael eu hethol.”

Dywedodd Cynghorydd Meirion Hughes wrth golwg360: “Doeddwn i heb lawn werthfawrogi pwysau’r cyfrifoldeb sy’n dod â gweinyddiaeth gyhoeddus a doeddwn i heb ddisgwyl i’r pwysau fod mor drwm.

“Mae’n gyfrifoldeb difrifol ac mae’n rhaid i bobol wneud yn siŵr eu bod wedi paratoi am y swydd.”