Tristram Hunt
Yn dilyn ymddiswyddiad un o Aelodau Seneddol mwyaf blaenllaw Llafur, Tristram Hunt, mae un o wleidyddion amlyca’ Llafur Cymru yn dweud ei fod “ar goll”.

Yn ôl Paul Flynn, doedd Tristram Hunt ddim yn “wleidydd naturiol” ac mae hi yn “well i bawb” ei fod yn mynd yn ôl i’r byd academaidd.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Addysg cysgodol yn gadael ei sedd yn Stoke-on-Trent Central i ddod yn gyfarwyddwr amgueddfa’r V&A yn Llundain.

“Tristram Hunt yw’r hanesydd sydd wedi crwydro i mewn i fyd gwleidyddiaeth ac roedd bob tro tipyn bach ar goll mewn gwlad estron,” meddai Paul Flynn wrth golwg360.

“Dw i’n credu y bydd yn well [iddo] fynd yn ôl i’r byd academaidd. Nid gwleidydd naturiol oedd e.”

“Rhy glyfar” i fod yn Blairite

Roedd Tristram Hunt ar ochr dde’r Blaid Lafur ond er hynny, roedd yn “rhy glyfar” i fod yn Blairite, yn ôl Paul Flynn.

“Mae’n llawer gwell na Blairite, mae’n rhywun sy’n meddwl am bethau ac mae’n llawer rhy glyfar i fod yn Blairite.

“Ond nid gwleidydd yw e, dyna’r broblem. Roedd mewn swydd oedd ddim yn ffitio’n iawn o gwbl. Roedd e’n edrych, bob tro, ar goll.

“Dyw e ddim yn ffitio i mewn i fyd brwnt gwleidyddiaeth. Mae e’n meddwl am bethau, intellectual yw e, nid rhywun sy’n byw’r rough trade o wleidyddiaeth.”

Isetholiad arall

Mae ymddiswyddiad Tristram Hunt yn golygu cynnal isetholiad yn ei sedd yn Stoke-on-Trent, sialens arall i arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Wrth adael mae Tristram Hunt wedi dweud nad yw ei ymddiswyddiad yn golygu bod ganddo “unrhyw awydd i siglo’r cwch” y tu fewn i’w blaid.