Mae Cymdeithas yr Iaith wedi awgrymu nad oes pwynt i’r Llywodraeth geisio creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 os nad oes targedau blynyddol i gynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu dysgu drwy’r iaith.

Mae’r mudiad wedi anfon llythyr at Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, yn dweud wrtho nad oes gan y strategaeth “hygrededd” os nad oes “targedau clir” o ran nifer yr athrawon Cymraeg newydd-hyfforddedig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth golwg360 eu bod yn bwriadu [c]ynllunio’r gweithlu er mwyn cynyddu nifer yr athrawon sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg”.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi strategaeth iaith newydd ym mis Mawrth fydd yn mapio’r hyn sydd i fod i ddigwydd dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, a chadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Heledd Gwyndaf, wedi dweud bod angen ‘chwyldro’ ym maes addysg Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

“Mae’r Llywodraeth wedi defnyddio’r rhethreg iawn, ond nawr y cwestiwn mawr yw a ydyn nhw’n fodlon cymryd y camau dewr a phendant ymlaen,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Rydyn ni wedi cyhoeddi pum dogfen sy’n amlinellu sut i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y miliwn – does dim esgus gan y Llywodraeth i beidio â gweithredu.”

Llythyr y Gymdeithas at Alun Davies

Mewn llythyr at Alun Davies, dywedodd Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:

“ … mae’n glir bod angen arweiniad gwleidyddol gennych fel Gweinidog a’ch cyd-Weinidogion ar rai materion.

“Gofynnaf felly i chi gadarnhau … y bydd y Llywodraeth yn gosod targed blynyddol ar ddarparwyr addysg gychwynnol athrawon er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghanran a niferoedd y newydd-hyfforddedig sy’n medru dysgu drwy’r Gymraeg …

“Mae ein barn yn ddiamwys: ni fydd ddim hygrededd gan strategaeth iaith y Llywodraeth os nad yw’n gosod targedau blynyddol ar gyfer cynyddu’r canran sy’n gadael addysg gychwynnol athrawon gyda’r gallu i ddysgu drwy’r Gymraeg.

“Mae’r cam hwnnw’n un gwbl sylfaenol a chreiddiol i’r strategaeth iaith: ni allwn gefnogi strategaeth sydd ddim yn gweithredu ar y targed cadarn penodol hwnnw.”

Ymateb y Llywodraeth

Yn ôl llefarydd y Llywodraeth, bydd Gweinidog y Gymraeg yn darparu ymateb cynhwysfawr i’r llythyr.

Yn y cyfamser fe ddywedodd y llefarydd: “Wrth gwrs bydd datblygu’r system addysg i greu siaradwyr Cymraeg i’r dyfodol yn rhan annatod o’r Strategaeth Iaith newydd. “Bydd yn adeiladu ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg cyfredol ac yn cynnwys targedau ar gyfer ehangu a gwella’r ddarpariaeth.

“Bydd nifer o faterion yn cael sylw o ran y maes addysg, gan gynnwys:

•           cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg drwy gefnogi awdurdodau lleol i gynllunio drwy eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg;

•           cyflwyno un continwwm o ddysgu Cymraeg, y bydd disgwyl i bob ysgol ei ddefnyddio o 2021; a

•           chynllunio’r gweithlu er mwyn cynyddu nifer yr athrawon sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.”