Mae criwiau graeanu ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin wedi gwasgaru dros 500 tunnell o halen ar briffyrdd yr ardal yn y 24 awr ddiwethaf.

Er bod yr ardal wedi osgoi’r gwaethaf o’r rhybuddion eira ddoe, fe wnaeth y tymheredd blymio dros nos gan achosi rhew yn oriau mân y bore.

Cafodd 21 o gerbydau graeanu newydd y cyngor eu defnyddio i wasgaru’r graean, yn bennaf ar ffyrdd sy’n arwain at ysbytai, canolfannau ambiwlans a chanolfannau tân.

Dwedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sy’n aelod o’r Bwrdd Amgylcheddol: “Er bod disgwyl i’r tywydd wella o hyn ymlaen, fe fyddwn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn ymateb fel bo’r angen. Yn y cyfamser, rydym yn gofyn i yrwyr gymryd gofal arbennig ar y ffyrdd”.