Llys y Goron Caerdydd
Mae cyn-athro mewn mosg yng Nghaerdydd wedi bod o flaen ei well ar gyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol.

Cafodd 15 cyhuddiad eu cyflwyno yn erbyn Mohammed Haji Saddique, 80, o ardal Cyncoed mewn cysylltiad â phedair merch dros gyfnod o 10 mlynedd.

Mewn gwrandawiad i gyflwyno ple yn Llys y Goron Caerdydd, fe wadodd yr holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe glywodd y llys heddiw fod y merched rhwng pump ac 11 oed ar adeg y troseddau honedig rhwng 1996 a 2006. Credir bod yr anghyfiawnderau wedi digwydd ym mosg Madina.

Disgwylir iddo wynebu achos llys ar 5 Mehefin.