Wrth i rybuddion difrifol am wyntoedd cryfion, eira a rhew gael eu cyhoeddi yng Nghymru, mae miloedd o bobol yn nwyrain Lloegr yn cael eu hannog i adael eu cartrefi neu symud fyny grisiau.

Mae disgwyl glaw trwm a llifogydd sy’n beryg bywyd ar hyd arfordir dwyreiniol Lloegr ac mae’r heddlu a milwyr yn paratoi i symud miloedd o bobol ger Essex, Skegness yn Swydd Lincoln.

Yng Nghymru, mae rhybudd melyn o rew ac eira mewn grym nes bron i hanner nos heno –  yn benodol yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam yn y gogledd.

Ac yn y de a’r canolbarth, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd a Merthyr Tudful.

‘Perygl i fywydau’

Mae 12 rhybudd o lifogydd difrifol yr Asiantaeth Amgylcheddol, sy’n berygl i fywydau, yn ardaloedd arfordirol Essex a Suffolk.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod tua 100 o filwyr o ganolfan y fyddin yn Catterick wedi cael eu hanfon i Skegness ar arfordir Swydd Lincoln.

Mae rhai o awyrennau Maes Awyr Manceinion ar stop hefyd, gyda’r rhew ac eira’n cael y bai am yr oedi.