Llun o dudalen yr apel (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Ar ôl sawl ymgyrch i brynu rhannau o’r Wyddfa a thirweddau pwysig eraill, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru bellach yn gofyn am help i brynu tarw.

Mae cylchgrawn Cymraeig yr elusen wedi lansio apêl i godi £36,000 er mwyn prynu tarw i helpu cynnal gyr Gwartheg Gwynin Dinefwr.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gofyn i bobol roi £3 yr un trwy anfon neges testun er mwyn prynu’r anifail ar gyfer Parc Dinefwr ac mae’r apêl yn cael sylw yn eu cylchgrawn sydd newydd gael ei anfon at bob aelod yng Nghymru.

‘Dolen fyw’

Mae’r gwartheg yn “ddolen fyw i’n gorffennol pell iawn” meddai’r Ymddiriedolaeth, gan ddweud bod y creaduriaid yn cael eu crybwyll yng nghyfreithiau Hywel Dda yn y ddegfed ganrif.

A hithau’n ‘Flwyddyn y Chwedlau’, maen nhw hefyd yn cysylltu’r gwartheg gyda chwedl Llyn y Fan Fach.

Ond, yn ôl yr apêl, dim ond tua 750 o fuchod magu o’r brîd sydd ar ôl yn y byd i gyd ac mae angen tarw i gadw’r fuches yn fwy ar dir Plas Newton a Chastell Dinefwr.

“Mae’r brîd eiconig hwn, â’u blewyn gwyn a’u trwynau a’u clustiau du nodweddiadol, yn brinnach na’r panda mawr,” medden nhw.

  • Fe fydd arian o ras flynyddol Parc Dinefwr eleni hefyd yn mynd at Gronfa’r Gwartheg Gwyn.