Yr ail bont tros aber Hafren (Llun hawlfraint agored)
Mae yna groeso wedi bod i addewid gan Lywodraeth Prydain i fwy na haneru’r tollau tros bontydd afon Hafren.

Fe fyddai hynny’n “sicrhau dyfodol a diogelwch y pontydd am genedlaethau i ddod ac yn rhoi hwb i’r economi hefyd,” meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling.

Ond mae yna alwadau hefyd am iddyn nhw fynd ymhellach a chael gwared ar y tollau’n llwyr pan ddaw’r pontydd yn ôl i ddwylo cyhoeddus yn 2018.

Mwy na haneru’r tollau

Fe fydd pob un o’r tollau’n torri i’r hanner o leia’, gyda’r doll i fysys bach a faniau’n gostwng llawer mwy:

  • Fe fydd y tollau i geir yn mynd o £6.70 i £3.
  • Fe fydd y tollau i lorïau’n mynd o £20 i £10.
  • Fe fydd y tollau i faniau’n mynd o £13.40 i £3.

‘Rhaid mynd ymhellach’

Roedd llefarydd trafnidiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhy’r Arglwyddi, Jenny Randerson, yn croesawu’r newyddion ond yn galw am fynd ymhellach.

Mae angen cael gwared ar y tollau’n llwyr, meddai: “Pam ddylai pobol sy’n defnyddio’r bont yma dalu am ei chynnal a’i chadw a nhwthau eisoes yn talu am drwsio ffyrdd trwy’r system drethi.”

Tros y blynyddoedd, mae busnesau yn ne Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y tollau sydd ar y ddwy bont tros aber yr afon.

Mae’r doll yn doll ar ddod i mewn i Gymru, meddai’r Cynghorydd John Warman o Gastell Nedd Port Talbot, sy’n arwain yr ymgyrch yn erbyn y tollau, gan honni mai dyma’r bont ddruta’ i’w chroesi yn y byd.

Dim tollbyrth?

Heddiw hefyd, fe fydd Llywodraeth Prydain yn dechrau ymgynghori ar y syniad o gael system heb dollbyrth ar y pontydd, gan ddefnyddio technoleg electronig.

Pe bai hynny’n digwydd, fe allai tollau gael eu codi ar ddwy ochr y bont yn hytrach na dim ond ar y ffordd i mewn i Gymru.

Wedyn, fe fyddai’r doll un ffordd i geir yn cwympo i £1.50.