Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi gwrthod cynigon i rannu Cymru i bum rhanbarth TB, gan bwyso eto am ddifa moch daear mewn ardaloedd lle mae llawer ohonyn nhw.

Mewn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig rhannu Cymru i ddwy ardal â lefelau uchel o TB, dwy â lefelau canolig ac un â lefel isel o TB.

Byddai hyn yn golygu y byddai gan bob rhanbarth rheolau gwahanol yn dibynnu ar lefel yr afiechyd sydd yno.

Yn ôl yr undeb amaethwyr, byddai’r cynigion hyn yn gwneud rheolau TB mewn gwartheg Cymru’n llymach fyth, er bod rheolau Cymru ymhlith y llymach yn y byd.

“Mae’r papur ymgynghori yn cydnabod bod lefel yr afiechyd sy’n cael ei ganfod mewn moch daear yng Nghymru yn 6.6%, sy’n tua 1420% yn uwch na’r lefel mewn gwartheg, 0.4%,” meddai llefarydd Undeb Amaethwyr Cymru ar TB, Brian Walters.

“Fe wnaeth ein haelodau ni’n glir y byddai’r cynnig i rannu Cymru i bum rhanbarth ac ychwanegu eto at y rheolau TB llymach yn Ewrop dim ond yn gwneud synnwyr os bydd nifer y moch daear yn cael ei leihau yn yr ardaloedd lle maen nhw’n pasio’r afiechyd ymlaen at wartheg.”

Dadlau tros ddifa

Mae’r undeb yn dadlau y byddai difa moch daear yn lleihau nifer y gwartheg sy’n cael eu heintio â TB ac y byddai’n arbed arian, er bod y gost o ddifa yn debyg i’r polisi brechu moch daear, sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Ychwanegodd Brian Walters y byddai’r sector amaethyddol yn cefnogi dilyn yr hyn sy’n digwydd yn Seland Newydd, lle mae ffermwyr yn dilyn dull ‘prynu gwybodus’ wrth brynu a gwerthu gwartheg.

“Mae dull fel sydd yn Seland Newydd yn un y byddai’r diwydiant ffermio yng Nghymru yn cefnogi’n llawn, am ei fod yn bartneriaeth go iawn rhwng y llywodraeth a ffermwyr lle mae’r gwleidyddion yn cydnabod yr angen i ddifa bywyd gwyll er mwyn rheoli TB,” meddai.

“Heb yr ymrwymiad hwnnw gan wleidyddion Cymru, fyddwn ni byth yn cyflawni’r llwyddiant sydd i’w weld yn Seland Newydd, Awstralia a gwledydd eraill sydd wedi gweithredu rhaglenni difa llwyddiannus drwy daclo’r afiechyd mewn gwartheg ac mewn bywyd gwyllt.”

“Ystyried ymatebion”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Rydym yn croesawu’r holl ymatebion oedd yn seiliedig ar dystiolaeth i’n hymgynghoriad ar raglen newydd ar gyfer dileu TB. Hoffem ddiolch hefyd i NFU Cymru a FUW am eu cyfraniad nhw.

“Byddwn yn mynd ati yn awr i ystyried yr holl ymatebion yn ofalus er mwyn sicrhau bod ein dull yn y dyfodol ar gyfer dileu’r clefyd hwn yn gymesur, yn effeithiol ac yn gweithio er lles pawb.”