Mae cyfri’ Trydar Cymraeg poblogaidd yn gofyn am gyfraniadau gan ddilynwyr ar-lein, er mwyn medru “ehangu” ei weithgareddau ar-lein.

Mae gan gyfri Yr Awr Gymraeg, a gafodd ei sefydlu yn 2012 i hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau busnesau a sefydliadau, bellach dros 8,000 o ddilynwyr.

Bwriad Yr Awr Gymraeg yw ehangu gan sefydlu cyfrif Facebook a’u gwefan eu hunain, gan roi lle yno i erthyglau, podlediadau a fideos byr am aelodau.

Hunan cynhaliol

Bydd yr arian gaiff ei godi hefyd yn galluogi trefnwyr y cyfri’, Huw Marshall a Dewi Eirig, i dalu unigolyn i weithio 16 awr yr wythnos ar y fenter am 5 mis.

Y gobaith yw y bydd y cyfri’ yn hunan cynhaliol ar ddiwedd y pum mis, trwy hysbysebu a gweithgareddau masnachol.