Mae’r heddlu wedi enwi dynes wnaeth farw yn croesi’r stryd ym Maesteg brynhawn dydd Mawrth.

Lladdwyd Tydfil Jenkins, 80, pan gafodd hi ei tharo gan gar wrth groesi Stryd Bethania A4063 am 5.05yh.

Cafodd gyrrwr 34 oed y car ei arestio dan amheuaeth o fod wedi achosi marwolaeth trwy yrru heb ofal, tra’n anaddas ar gyffuriau a heb drwydded nac yswiriant.

Cafodd Tydfil Jenkins ei datgan yn farw ar fan y damwain ac mae’r gyrrwr yn parhau i fod dan glo yng ngorsaf heddlu Pen-y-bont ar Ogwr.