Mae pwyllgor wedi rhybuddio ynglŷn â pheryglon llyncu cyffuriau, yn dilyn marwolaeth dyn yn Rhondda Cynon Taf.

Bu farw Peter Jonathan, 44, o ataliad y galon wedi iddo lyncu cyffuriau er mwyn eu cuddio rhag heddlu.

Cafodd ei stopio gan swyddogion Heddlu De Cymru yn Aberdâr ar Ebrill 7 y llynedd, ac mae’n debyg y gwnaeth lyncu pecynnau o gyffuriau rheoledig.

Er iddo dderbyn cymorth cyntaf bu farw yn y man a’r lle, ac mi wnaeth archwiliad post mortem ddarganfod mai camddefnydd nifer o gyffuriau a rhwystr i’w anadlu oedd i gyfri.

Comisiwn Annibynnol

Roedd marwolaeth Peter Jonathan yn rhan o ymchwil Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wnaeth benderfynu bod swyddogion yr heddlu wedi ymateb mewn modd priodol.

Dywedodd Comisiynydd Cymru’r Comisiwn Annibynnol, Jan Williams: “Mae amgylchiadau marwolaeth Mr Jonathan yn dangos pa mor hawdd mae hi i farw trwy geisio cuddio cyffuriau yn y modd yma.”