Fe fydd gorsaf heddlu’r Trallwng yn cau am wyth wythnos o heddiw ymlaen o ganlyniad i waith adnewyddu.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y Tîm Plismona Bro yn adleoli yng ngorsaf y Frigâd Dân yn y Trallwng.

Er hyn, bydd y man galw cyhoeddus yn dal i gael ei gynnal tu allan i’r orsaf heddlu, gyda swyddogion yn dod o’r orsaf dân i’r fan honno pan fyddan nhw’n cael eu galw.

Mae’r gwaith adnewyddu yn cynnwys “mân waith hanfodol ar yr adeilad a’r system wresogi.”

Esboniodd yr Arolygydd Jonathan Tatton, “mae’r lefel buddsoddiad hwn yng ngorsaf heddlu’r Trallwng yn dangos yn glir ein hymrwymiad tuag at gadw canolfan blismona leol yn y dref a’n hawydd i sicrhau bod ein cyfleusterau yn addas i’w defnyddio’n weithredol yn y dyfodol.

“Bydd y gwaith hwn yn sicrhau ein bod ni’n medru cynnig y safonau gwasanaeth uchaf i’n cymunedau yn y Trallwng.”