Bethan Jenkins
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn dweud y dylai’r blaid ail-ystyried ei chyd-ddealltwriaeth gyda Llafur ym Mae Caerydd os y bydd Dafydd Elis-Thomas yn cael ei benodi i swydd “bwysig” o fewn y llywodraeth.

Yng nghynhadledd y wasg Plaid Cymru heddiw, fe ddywedodd Bethan Jenkins yn ddi-flewyn ar dafod y dylid edrych eto ar fanylion unrhyw gyd-ddeall ar faterion fel y gyllideb, os y bydd cyn-aelod Plaid Cymru yn cael lle yng nghabinet Carwyn Jones.

“Dyna fy marn i, o achos y ffaith ein bod ni wedi adeiladu hyder gyda nhw ar sail ymddiriedaeth. Ac yn amlwg, fe fyddai’n rhaid i ni ddeall natur y berthynas honno gyda Dafydd Elis-Thomas,” meddai Bethan Jenkins.

“Os byddai’r Prif Weinidog yn cynnig rôl iddo fe yn y Cabinet, dw i’n siwr y byddai gennym ni farn ar hynny.

“Dydyn ni heb wneud unrhyw benderfyniadau os byddan ni’n gweithio gyda nhw ai beidio,” meddai wedyn, “ond fydden i ddim yn teimlo’n gyfforddus gyda rhywun sydd wedi tanseilio ein grŵp a’n gwaith ni fan hyn yn gweithio gyda Llafur ac i ni fod yn iawn â hynny.

“Byddai’n rhaid i ni gael trafodaeth grŵp [ar ddod â’r compact i ben]. Yn bersonol, os byddai Dafydd Elis-Thomas yn cael rôl weinidogol, fe fydden i’n sicr yn dweud yn y grŵp na fyddwn i’n gyfforddus gyda’r compact (y gyd-ddealltwriaeth) yn parhau.”