Mae ymchwil newydd yn dangos bod lleihad wedi bod ym maint y bwyd sy’n cael ei wastraffu yng Nghymru rhwng 2009 a 2015.

Yn ôl ffigurau adroddiad WRAP Cymru, bu lleihad o 11% yn ystod y chwe blynedd gyda 24,000 tunnell o fwyd yn cael ei arbed rhag ei wastraffu.

Roedd ffigurau gwastraff bwyd Cymru yn is na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig gyda 7.3 miliwn tunnell o fwyd sydd gwerth tua £13 biliwn yn cael ei wastraffu ar draws y Deyrnas Unedig.

‘Parhau i leihau gwastraff bwyd’

“Yng Nghymru, mae torri i lawr ar faint o fwyd rydyn ni’n ei wastraffu’n ddiangen wedi’i adnabod fel blaenoriaeth allweddol yn ein strategaeth, ‘Tuag at ddyfodol diwastraff’, ac yn cyfrannu at amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol,” meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths.

“Yng Nghymru, mae tystiolaeth fod lefelau gwastraff wedi disgyn 12% y pen rhwng 2009 a 2015. Byddwn yn parhau i weithio gydag Awdurdodau Lleol a chartrefi i wneud pob ymgais i leihau ein gwastraff bwyd.”