Llys Wrecsam (llun gwasanaeth y llysoedd)
Mae gwraig sy’n byw yng ngogledd Cymru wedi cael yr hawl i gadw’i phlentyn rhag mynd i ofal – er bod saith o blant eraill eisoes wedi eu cymryd oddi arni.

Hynny hefyd er fod gweithwyr cymdeithasol y cyngor lleol wedi dweud nad oedd hi’n abl i gwrdd ag anghenion ei babi diweddara’ sydd bron yn un oed.

Fe benderfynodd barnwr y bydddai’n rhaid i staff gwasanaethau cymdeithasol ei goruchwylio hi ond nad oedd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau gwahanu’r fam a’r plentyn.

Achos llys teulu

Fe gyhoeddodd y Barnwr Gareth Jones ei benderfyniad mewn datganiad ysgrifenedig ar ôl achos llys teulu yn Wrecsam.

Roedd wedi clywed fod gan y wraig hanes o iselder ac “anghenion emosiynol anferth” ar ôl cael ei cham-drin pan oedd hi’n blentyn.

Does dim modd cyhoeddi enwau’r wraig na’r plentyn ond fe glywodd y llys ei bod hi wedi symud i ogledd Cymru o ran arall o wledydd Prydain er mwyn “dechrau o’r dechrau”.

Fe ddaeth yn amlwg hefyd fod gan y plant nifer o wahanol dadau.