Mae 1.3 miliwn o bobol wedi defnyddio Maes Awyr Caerdydd yn ystod 2016, yn ôl ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw, ac mae’n dangos cynnydd o 16% yn nifer y teithwyr o gymharu â 2015.

Yn ôl y ffigurau, Caerdydd bellach yw un o’r meysydd awyr sy’n tyfu gyflyma’ yng ngwledydd Prydain. Mae chwarter y teithwyr, meddai’r ystadegau, yn defnyddio’r maes awyr fel porth i ddod i ymweld â Chymru, yn hytrach nag i hedfan ymlaen i rywle arall.

Mae’r cynnydd yn nifer y teithwyr wedi dod wrth i wasanaethau newydd gael eu cyflwyno yng Nghaerdydd, yn cynnwys hediadau i Ferona yn Yr Eidal, ac i ddinas Berlin yn Yr Almaen.

Mae disgwyl i’r maes awyr ddechrau cynnig hediadau i Guernsey, Rhufain a Madrid yn ystod 2017.