Bu farw is-gadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Roedd John Gwyndaf Ellis o Landdarog yn 78 oed ac wedi bod yn gysylltiedig â’r ardd ers 20 mlynedd.

Roedd hefyd yn ffigwr blaenllaw ar nifer o gyrff cyhoeddus eraill gan gynnwys yr hen Gyngor Sir Dyfed lle bu’n Gyfarwyddwr Addysg ola’r awdurdod hwnnw.

Ynghyd ag aelodau eraill, roedd yn gyfrifol am sefydlu Menter Cwm Gwendraeth; bu’n is-lywydd ar Dolen Cymru Lesotho, sefydliad sydd yn cynorthwyo plant amddifad; ac roedd hefyd yn llysgennad ar gyfer cynllun Gwobr Dug Caeredin.

Derbyniodd OBE adeg pen-blwydd y Frenhines y flwyddyn ddiwetha’.