Mae dynes a gafodd ei holi fel rhan o ymchwiliad i farwolaeth dyn yn Hen Golwyn, wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Fe gafodd y wraig 38 oed ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth David James Kingsbury ddydd Iau.

Mae tri dyn arall wedi’u dwyn i’r ddalfa, a’r rheiny hefyd wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod y ddynes wedi’i rhyddhau tra bod ymholiadau’n parhau.