Yr Athro Roger Scully
Mae arolwg diweddaraf y Pôl Baromedr Gwleidyddol Cymreig yn dangos bod y gefnogaeth i Lafur wedi disgyn i’w lefel isaf yng Nghymru ers cyn yr etholiad cyffredinol yn 2010.

Cymerodd 1,034 o oedolion Cymru ran yn yr arolwg YouGov i ITV Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd rhwng Ionawr 3 a 6 eleni.

Fe gawsant eu holi ynglŷn â pha blaid yr oedden nhw’n ei gefnogi, a dyma’r canlyniadau ar gyfer etholiad cyffredinol yn y Deyrnas Unedig (mae’r ffigwr yn y cromfachau’n dangos y newid ers y pôl diwethaf ym mis Medi 2016):

Llafur: 33% (-2)
Ceidwadwyr: 28% (-1)
Plaid Cymru: 13% (dim newid)
UKIP: 13% (-1)
Democratiaid Rhyddfrydol: 7% (-1)
Eraill: 2% (-1)

Mae’r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn tynnu sylw at y cwymp yng nghefnogaeth Llafur gan awgrymu y gallai sedd Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol nesaf newid dwylo rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Mae hefyd yn rhagweld y canlyniadau canlynol i Gymru o dan y drefn ffiniau etholaethol newydd: Llafur 14 sedd; Ceidwadwyr 11 sedd; Plaid Cymru 3 sedd, a’r Democratiaid Rhyddfrydol 1 sedd.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

O ran y Cynulliad Cenedlaethol, roedd canlyniadau’r arolwg fel a ganlyn:

Llafur: 31% (-3)

Ceidwadwyr: 25% (+1)
Plaid Cymru: 21% (+1)
UKIP: 12% (-1)
Democratiaid Rhyddfrydol: 8% (+2)
Eraill: 3% (dim newid)

‘Trobwynt’

 

Esboniodd Roger Scully mai dyma’r gostyngiad mwyaf i Lafur mewn sawl blwyddyn gan awgrymu eu bod yn wynebu “trobwynt.”

“Dyma’r raddfa pôl isaf i’r blaid ar bleidlais etholaethol y Cynulliad ers y pôl Cymreig cyntaf gan YouGov ym mis Gorffennaf 2009,” meddai.

Dyma hefyd oedd canlyniadau’r bleidlais ranbarthol:

Llafur: 28% (-1)

Ceidwadwyr: 22% (dim newid)
Plaid Cymru: 20% (-1)
UKIP: 14% (+1)
Democratiaid Rhyddfrydol: 7% (+1)
Eraill: 7% (-3)

 

‘Trafferthion parhaus’

 

Wrth grynhoi’r arolwg, dywedodd Roger Scully:

“Ar y cyfan, mae ein pôl baromedr newydd yn dangos bod trafferthion parhaus y blaid Lafur ar draws y Deyrnas Unedig yn gadael effaith nodedig yng Nghymru, eu cadarnle sydd wedi aros hiraf.

“Tra bod perfformiad y Blaid Lafur yn ein harolwg newydd yn wan, does dim un o’i gwrthwynebwyr yn cael cyfraddau disglair chwaith.

“Ond fel mae ein rhagdybiaethau ar gyfer seddau’r Cynulliad Cenedlaethol yn dangos, hyd yn oed heb fod y gwrthwynebwyr yn gwneud mor dda â hynny, os yw cefnogaeth Llafur yn parhau i wanhau yna fe allai’r blaid dalu pris etholaethol trwm iawn.”