David Skeen o Dalgarth, Llun: Heddlu Dyfed Powys
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau mai corff David Skeen sydd wedi’i ganfod ym Mannau Brycheiniog.

Cafodd David Skeen, 51 oed, o ardal Talgarth ger Aberhonddu ei weld ddydd Mawrth diwethaf wrth fynd allan i redeg.

Dros y penwythnos, fe ddaeth timau achub o hyd i gorff yn yr ardal a bellach mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff David Skeen ydyw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys:

“Gall Heddlu Dyfed Powys gadarnhau bod y corff a gafodd ei ddarganfod yn ardal Talgarth wedi’i adnabod yn ffurfiol fel David Skeen, 51.

“Mae ein meddyliau gyda’r teulu yn y cyfnod anodd hwn.”

Roedd David Skeen yn barafeddyg oedd wedi symud yn ddiweddar i’r ardal o Fryste.